Mis Medi

06th October 2014
For an English version, click here]
Cafwyd y mis Medi sychaf ers cyn cof, a oedd yn newyddion ardderchog i mi, gan bod y cyfnod tynnu lluniau heb wlychu'n wlyb domen wedi'i ymestyn rhywfaint.

Fe ddaeth lliwiau'r hydref i'r coed a'r gwrychoedd yn gyflym iawn, serch y tywydd braf, ac roedd gwledd o fwyar duon ar gael drwy gydol y mis.

Dyma'r amser traddodiadol i bobl cefn gwlad ddod at'i gilydd i ddiolch am lawnder y cynhaeaf. Yn wir i chi, fe gefais innau gynhaeaf da o bob math o fwydydd diddorol, nid o'r caeau agos mae'n wir, ond o'r archfarchnadoedd lleol, a lle oedd hynny'n bosib, o siopau teuluol y dref, ac o'r farchand ffermwyr. Y rheswm dros y cynhaeaf hwn oedd fy mod yn tynnu lluniau ar gyfer llyfr coginio a fydd allan, gobeithio, erbyn y Nadolig.





Os ydych yn coelio yn y pethau hyn, dyma gyfnod arwydd 'Virgo' hefyd, a bum yn tynnu lluniau gweithiau celf a chrefft i gyfeillion o'r pentref.

Dyma esiamplau o waith cywrain y diweddar Mary Hughes, gan gynnwys un panel o'i champwaith brodwaith o holl symbolau'r zodiac.



A chath ddu, o'r cyfnod pan oedd hi'n astudio mewn coleg celf, ym mlynyddoedd cynnar y ganrif ddiwethaf.



Un o fanteision yr hydref yw nad oes raid codi'n ofnadwy o gynnar i ddal y wawr, nac ychwaith aros i fyny'n rhy hwyr i ddal y machlud, ac wrth gwrs, fe ddaw cyfle i weld y 'supermoon' - neu i ni - y lleuad fedi.

Dyma lun sydd wedi gafael, a dyrnaid o brintiau eisoes wedi'u gwerthu! Cysylltwch os hoffech brint - mae fy mhrisiau yn rhesymol, ac fe wna anrheg Nadolig gwych a gwahanol :-)

Machlud dros Fae Ceredigion, o Glarach.


Mae'r printiau sydd wedi mynd i gartrefi newydd wedi'u creu ar argraffydd newydd sydd gen i, sef Canon Pixma Pro1. Printiwyd ar papur ffibr almeinig (drud!!), a wir i chi, mae'r canlyniadau wedi fy mhlesio i a sawl un arall, yn fawr iawn.


Cafwyd diwrnod bendigedig i gau pen y mwdwl ar brosiect i awdur arall, ac o fod yn amyneddgar wrth aros i'r haul ymddangos rhwng y cymylau, cafwyd lluniau go lew o Abaty Cwmhir yn Sir Drefaldwyn, oedd ar un adeg y mwyaf, a siwr o fod y mwyaf diarffordd o'r abatai Sistersiaidd yng Nghymru.



Wrth fynd i dynnu llun awdures ar gyfer clawr llyfr newydd ganddi, fe losgais gwerth wythnos o 'tread' oddi-ar fy nheiars pan welais hwn ar ymyl y ffordd. Rhywbeth ddigon diniwed yn y bôn, sef rhan o gystadleuaeth bwgan brain, ond eto roedd rhywbeth mor drawiadol ac anghynnes am y bwgan hwn, reit ar fin y ffordd!



Nid bwganod brain oedd ger yr A487 ar Rhiw Penglais a hefyd Ffordd Llanbadarn, yn Aberystwyth, ond rhai o fy hen gyfeillion o'r Llyfrgell Genedlaethol yn picedu'r sefydliad i geisio cael gwell cyflog. Fe wnes i ohirio diwrnod o waith er mwyn tynnu lluniau'r streic a'r orymdaith i lawr i'r dre.



Roedd y streic gyntaf hon yn erbyn y Llyfrgell Genedlaethol, gan yr holl undebau sydd yno, yn achlysur oedd angen ei gofnodi ar gyfer cadw hanes y sefydliad.

Oherwydd fy mod ar dân eisiau gorffen tynnu lluniau ar gyfer cyfrol sydd gen i ar y gweill, yn lle mynd am ein gwyliau i'r Eidal, fe aeth Marian a finnau i lawr i waelod y sir, a thros y ffin i Gastellnewydd Emlyn am dridiau! Dyma wyliau gyrrwr bws, fel petai, ac fe welson lot o ryfeddodau wrth yrru o gwmpas ffyrdd y wlad ar ein pererindod.

Rhy hwyr i ni - rhy hwyr o lawer!



Yn anffodus roedd dau o'r llefydd oedd ar ein 'itinerary' wedi cau yn ddi-rybudd ar y adeg aethon ni yno i ymweld.

Ond roedd digon i wneud ac i'w weld - mae Ceredigion yn frith o atyniadau a chilfachau difyr.

Dyma i chi Melin y Graig - Rock Mill, ger Capel Dewi, y felin wlan olaf yng Nghymru sy'n gweithio gyda rhod dŵr.



A chanolfan gwiltiau hanesyddol Jên Jones ger Llanybydder. Mae ganddi hi ganolfan ac orielau arddangos yn Llanbed hefyd, sydd efallai yn fwy hygyrch i rai.





Welson ni neb mewn cwrwgl ar yr afon ger Cenarth. A dweud y gwir, rwyf wedi bod yno sawl gwaith, ond heb eto weld cwch ar yr afon. Ond mae'r hen felin, sydd wir angen dipyn go lew o waith adnewyddu... yn edrych yn reit hardd.


Erbyn cyrraedd Aberteifi, fe welson ni'r creadur hwn, hen gath goch fawr, yn cysgu llwynog ar gadair mewn stryd gefn.


Nid gysgu oedd y gochan hon, rhai dyddiau'n ddiweddarach, wrth i ni fynd am dro heibio Nant-y-moch, ar odre Pumlumon.



Roeddwn wedi addo i mi fy hun y byddwn yn cerdded rai o lwybrau'r Hafod Uchtryd, hen ystad sydd rhwng Cwmystwyth a Phont-rhyd-y-groes, yn arbennig felly i weld y rhaeadr 'tanddaearol'.

Bwa hanesyddol Cwmystwyth wedi'r gwaith adfer diweddar iawn.



Fe gymerodd Marian brynhawn ychwanegol o wyliau, a chawsom amser hyfryd mewn gwres llethol (a hithau'n fis Medi!) yn mynd ar goll, wedyn yn ffendio'n ffordd a dringo ar hyd llwybr reit anodd uwchben yr afon, nes cyrraedd hwn...



Fel y gallwch ddychmygu, gyda'r holl drampio a dreifio rwyf yn ei wneud er mwyn casglu lluniau ar gyfer amryw gyfrolau, mae angen ychydig o 'TLC' ar y car o dro i dro. Er mor ffyddlon yw'r hen FiDyb, roedd angen gwaith arno, ac roedd arnaf chwant newid. Wrth ddychwelyd o brofi car arall, fe sylwais ar y creadur hwn o flaen gweithdy Ceir Cawdor. Yn anffodus i'r garej, yr unig beth aethum adre efo mi oedd y gwyfyn bach melyn (Ennomos fuscantaria), oherwydd fe benderfynais gadw'r hen gar ffyddlon am dymor arall!



Er y tywydd bendigedig, ni fentrais i Aberystwyth i gael llun o'r machludoedd hyfryd, ond fe gefais y shot syml, ffwrdd-â-hi yma o bysgotwr cimychiaid yn dychwelyd adref. - llun sydd wedi cael dipyn bach o sylw ar y gwefannau cymdeithasol.



Ond rhaid dweud ffarwel gyda machlud, onid oes?!

Wele dau lun o'r un machlud, o fewn munudau i'w gilydd, a dynnwyd o draeth Clarach.



A'r un gorau (a dynnwyd cyn y llall) - yr arfordir i lawr i waelod y sir ac i Sir Benfro.



Diolch am ddarllen

Iestyn


Leave a comment

Your Name
Your Email
(Optional)
Your Comment
No info required here, please press the button below.