Newyddion . News

Medi 2017
03rd October 2017 - 0 comments
Ychydig o luniau a dynnwyd yn ystod mis Medi.
Just a few pictures taken during September.

Aberystwyth.
Dangos cefnogaeth i refferendwm Catalonia
Supporting the Catalonia referendum campaign








Aberystwyth o odre Allt Wen.
Aberystwyth across Tan-y-bwlch beach.


Haenau o hanes - arfordir Ceredigion.
Layers of history, Ceredigion coast.


Sioe Rhydypennau
A small part of the work by local children on display at Rhydypennau show.


Cynffon storm arall
Tail end of yet another storm


Cymylau dros y dref
Aber clouds


Swper cynhaeaf er mwyn codi ymwybyddiaeth o ymgyrch Corwynt Cariad (Ysgoldy Bethlehem, Llandre)
Harvest supper to raise awareness of the 'Typhoon of Love' project.


Trist iawn oedd clywed ar ddiwedd y mis am farwolaeth yr artist Aneurin Jones. Mae ei waith yn gofnod o fywyd a chymeriad cefn gwlad sydd bron wedi darfod. Fe fydd yn chwith iawn gan Gymru ar ei ôl, a chydymdeimlwn â'r teulu yn eu colled.
Awst 2017
03rd September 2017 - 1 comment
This is a long post! So I'm not translating it word for word this time. It comprises my August pictures - holiday time! - with a smattering of links related to the content. The month was taken up with the National Eisteddfod (held in Anglesey), a trip to Pantycelyn to mark the 300th anniversary of William Williams's birth, judging at a local show, and especially a two night stay in Wiltshire, with a tour of some of the nearby historical sights. I hope you enjoy the pictures.

Cilgant Traeth Tan-y-bwlch ddechrau mis Awst


Fe ddechreuodd Awst y ffotograffau ar ben Pendinas, y fryngaer anferth o Oes yr Haearn sydd i'r de o Aberystwyth, a'i golygfeydd 360 gradd gwefreiddiol. Yn wahanol i Graig Glais i'r gogledd, does dim ffordd rwydd, megis funicular, i ddringo llethrau'r gaer, er bod dewis o lwybrau (hir a rhwydd, neu gymharol fyr a serth).

Mae hi wedi bod yn haf digalon iawn o ran y tywydd yn yr ardal hon, gydag awyr lwyd yn teyrnasu, a phrin ddiwrnod hollol heulog ar ei hyd tra oeddem ni o gwmpas y lle. 'Find your epic cloud' oedd hi. Fe ddylai'r awdurdodau twristiaeth hybu'r lle ar sail '50 lliw o lwyd', fe dybiaf.

Serch hynny, er gwynt oer, main, a chymylau'n bygwth glaw, roedd yr olygfa o un o fy hoff lefydd yn y byd, cilgant Traeth Tan-y-bwlch, yn codi ysbryd rhywun i'r nen.

Tan-y-bwlch yw'r llecyn rwy'n dychwelyd iddo - mae'n lle i'r enaid gael llonydd, mae'n lle o gyffro mawr adeg storm. Yma gellir cyffwrdd, gweld a synhwyro ystod ein hanes ar y ddaear.

Bûm yn byw am flwyddyn mewn llety myfyrwyr cyfagos - hen blasty - yn ôl ar ddechrau'r saithdegau - ac fe droediais y traeth bron yn feunyddiol. Hwn oedd yr adeg o dorri'n rhydd ar drothwy troi'n oedolyn; o ddarganfod y byd a chariad a chyffro (a chwrw!). Dyma fymryn o hanes y plas - er y dylid nodi bod y lle wedi'i werthu ers i'r erthygl hon ymddangos, ac mae nawr wedi'i droi yn fflatiau o'r radd flaenaf.

Felly fe ddaw'r gwynt main â chwa o atgofion gydag ef, tra bydd ton o hiraeth yn golchi drosof wrth wylio'r pelydrau prin yn llonni'r Bae.

Traeth Tan-y-bwlch ac Afon Ystwyth. Mae'r traeth, sydd wastad dan fygythiad yn sgil stormydd, yn hollbwysig o ran cyfeirio'r afon i geg harbwr Aberystwyth. [Dyma'r wal amddiffyn ar ganol ryferthwy storm]. Mae hanes hynod iawn am y lle adeg storm fawr 1938 yn fy llyfr Tywydd Mawr, os oes gan rywun ddiddordeb!

Yna fe ddaeth hi'n amser tynnu pethau ynghyd a chychwyn am yr Eisteddfod Genedlaethol yn Sir Fôn, yr annwyl dir, yr unig un... bro fy ngwreiddiau.

Rhaid bod glaw a gwynt Aberystwyth wedi glynu yn ein sodlau, oherwydd fe ddaeth dilyw i'n canlyn i Fodedern erbyn y dydd Sul.

Eisteddfod - cyn y dilyw


Ciw. Yn dilyn y dilyw, heulwen haf, a threfniadau parcio 'diddorol'


Adlewyrchu'r hinsawdd


Diddorol iawn oedd gweld y copi hwn o tsiaen i glymu caethweision yn 'Y Lle Hanes'. Fe ddaeth y gwreiddiol (a llu o ddarganfyddiadau eraill anhygoel) i'r golwg wrth i Lyn Cerrig Bach gael ei sychu gan awdurdodau'r awyrlu yn y Fali yn 1943. Mr William Owen Roberts, prif ofalwr tir yr awyrlu, oedd yn gyfrifol am y darganfyddiad, a bu'n ddigon hirben i anfon lluniau o'r tsiaen at Syr Cyril Fox, yr archaeolegydd enwog. Fe sylweddolodd yntau yn syth bod y tsiaen yn dyddio o'r Oes Haearn, rhyw 2000 o flynyddoedd yn ôl.

Dyma'r hanes difyr yng ngeiriau Eflyn, merch William Owen Roberts.

Wrth ystyried helyntion Charlottesville a'r cofebau 'confederate' yn UDA, rhyfedd meddwl bod caethwasiaeth yn rhan o'n hanes ninnau ers y cyfnod cyn-hanes.


Slwj


Nid Usain Bolt


Llwyfan lliwgar


Ymweld â'r Pafiliwn - Côr Dre yn ein diddanu.


Arwydd celfydd (a chlyfar)


Julia Griffiths Jones enillodd y Fedal Aur am Grefft a Dylunio


Manon Awst - cydlynydd arddangosfa 'Troelli' y Lle Celf.


Rhan fechan o arddangosfa 'Troelli'


'Troelli' - Archaeoleg/daeareg yr Ynys


Dr Ffion Reynolds, Cymrawd Ymchwil er Anrhydedd Prifysgol Caerdydd ac aelod o staff CADW, yn darlithio ar archaeoleg Bryn Celli Ddu.


Llwyfan y Maes - lle ceir ystod eang iawn o berfformiadau cerddorol drwy'r dydd.


Eden a Caryl yn perfformio clasuron ar Lwyfan y Maes


Rwy'n hoff iawn o ganu gwerin, yn enwedig perfformiadau blaengar y perfformwyr hyn.


Stiwardio dramatig


Merlod y Maes!


Dargyfeiriwyd yr Orsedd rhag y gwaethaf o'r tywydd


Gwynt Traed yr Orsedd


Osian yn yr Orsedd - wedi hen arfer o flaen camerâu'r wasg ryngwladol


Gwleidyddiath a phrotest - Bryn Fôn a 'Wylfashima'


Tu hwnt i'r Maes

Cartref bore oes Syr John Morris-Jones


Atomfa'r Wylfa (sydd yn cael ei dad-gomisiynu) yn amlwg, ac eglwys fach Llanbadrig yn cuddio ym mhleth y bryniau


Eglwys Llanbadrig. Yn ol y chwedl, glaniodd Sant Padrig yma, ar ôl dioddef llongddrylliad ar Ynys Padrig, sydd gerllaw


Celf Islamaidd y tu fewn i'r eglwys. Mae hanes diddorol iawn i hyn, sef dylanwad yr Arglwydd Stanley o Alderly


Llanlleiana. Olion hen waith clai tsieina. Mae Coflein yn ei nodi fel gwaith copr yn ogystal.


Mur a ddrylliwyd


Offer weindio uwchlaw Porth Wen


Hwyl ar y dŵr - Porth Wen


Gwaith briciau Porth Wen


Bron yn syth bin wedi dadebru o'r profiad eisteddfodol, roedd yn rhaid troi i gyfeiriad Llanymddyfri a Phantycelyn, wrth i ni ymuno efo trip o Gapel Seion i weld cartref y Pêr Ganiedydd.

Llywelyn ap Gruffydd Fychan - cerflun hynod gerllaw'r castell yn Llanymddyfri. Dyma 'Braveheart' Cymru - fe'i dienyddiwyd mewn modd erchyll oherwydd ei gefnogaeth milwrol i Owain Glyndŵr. Gwnaed y cerflun dur gan Toby a Gideon Petersen, 2001.


Llywelyn yn edrych dros dref Llanymddyfri


Pantycelyn
Criw Capel Seion


Merched hapus iawn


Eglwys Llanfair-ar-y-bryn - lle y bedyddiwyd William Williams.
Ceir tipyn o hanes yr adeilad yma


Ein tywysydd yn yr eglwys, Dai Gealy


Muriau hynafol yr eglwys


Organ ddiddorol


Ffenest Pantycelyn a'r Ficer Prichard


Ffenest hyfryd gan un o feistri gwydr lliw yng Nghymru, y diweddar John Petts


Ffenest hynod er cof am Cpt. John Logan Stewart - gyda swastika amlwg ar gynffon y ddraig (gwelir y Cpt fel Sant Sior yn lladd y ddraig natsïaidd)


Bedd Pantycelyn


Geiriad y bedd, (dan ddylanwad yr 'English Cause')


Capel Coffa Pantycelyn yn Llanymddyfri




Aethom yn syth ymlaen o Lanymddyfri draw i Gaerdydd ar ymweliad teuluol, ac i minnau dderbyn hyfforddiant ar sut i weinyddu gwefan i gorff gwirfoddol. Fe fydd cyflawni'r gorchwyl hwnnw yn cymryd dipyn o fy amser o hyn ymlaen, fe dybiaf. Mae newid yn change, fel maen nhw'n dweud!

Roedd dod i delerau â'r quirks wefan yn dipyn go lew o waith ac fel dihangfa, fe aethom am dro heibio Ponterwyd, draw i Ysbyty Cynfyn, ac yna dros y bryniau (serth iawn a llithrig!!) at Bompren y Ffeirad, ac i fyny i gyfeiriad Bryn Bras. Troi yn ôl oedd ein hanes, oherwydd ei bod hi'n hwyrhau, a ninnau wedi blino braidd.

Ponterwyd


Eglwys Ysbyty Cynfyn. Mae cerrig mawrion yn wal y fynwent - tebyg i feini hirion, a chred rhai fod yr eglwys wedi'i hadeiladu ar ganol cylch cerrig. Mae eraill yn tybio bod un o'r cerrig (yr un fwyaf) yn wreiddiol, ond bod un arall, ger mynedfa'r fynwent, wedi'i gosod yna yn fwriadol. Un ddamcaniaeth yw bod y trigolion lleol ers stalwm yn ceisio manteisio ar yr ymwelwyr 'rhamantaidd' oedd yn mynd i'r Hafod, drwy chwarae ar y syniad bod yr eglwys ar safle derwyddol.

Eglwys Ysbyty Cynfyn, sydd yn un o 'Lefydd Llonydd' Ceredigion.




Het



Pompren y Ffeirad


Pwll du o dan y bont - daeareg ryfeddol y ceunant, a thystiolaeth amlwg i'w gweld o effaith grym ac ymchwydd afon Rheidol ar ei thaith.


Un o ddarnau mwyaf hyfryd y daith, rhwng muriau'r hen lwybrau.


Grug ar y llechwedd i gyfeiriad Bryn Bras


Yn ôl wedyn at waith ar y wefan, nes bod dyletswydd yn galw, a finnau'n un o'r beirniaid yn Sioe Tal-y-bont.

Ebol anystywallt


Beirniaid answyddogol y Cylch


Da godro


Hyrddod hynod lleol


Gwartheg Duon Cymreig




Ceffylau gwedd






Y pencampwr


Cynnyrch (gwych)



Winwns


Blodau


A pha sioe y dyddiau hyn fyddai'n gyflawn heb arddangosfa o hen offer fferm a cherbydau?
Alun Pugh a'i dractor a oedd yn wreiddiol ym meddiant y Cyngor Sir.


Ymlaen ymhen deuddydd ar drip i swydd Wiltshire. Roedd hyn yn rhan o ddathliad hwyr iawn, iawn, iawn, iawn fy mhen-blwydd 'arbennig', a dathliad cynnar iawn, iawn, o ben-blwydd Marian!

Ceffyl Gwyn Bratton Camp




Doedd y tywydd ddim yn braf iawn pan gyrhaeddon ni'r lle, ond cyn i ni ymadael, fe frafiodd rywfaint, ac fe ddaeth criw o baragleidwyr yno.


Adonis Blue - pilipala prin iawn. Trueni na lwyddais i ddal llun o'i adenydd glas llachar yn llydan agored.


Hau


Ymlaen at Gôr y Cewri. Roedd glaw Aberystwyth wedi'n dilyn unwaith yn rhagor.
Côr y cewri


Yna ymlaen at Fryn Silbury ( - ceir yr hanes anhygoel yma)


Rhodd anarferol ar 'wishing tree' gerllaw


Llwybr cerrig hynafol tuag at Avebury



Avebury - safle a oedd efallai yn bwysicach yn ei gyfnod na Chôr y Cewri. Mae'r pentref 'quaint' wedi'i adeiladu yng nghanol cylchoedd cerrig enfawr. Mae'r ffordd fawr yn mynd trwy ganol y cylch, sy'n biti garw. Mae'r safle (a Bryn Silbury) yn nwylo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.


Blodeuwedd


Gwreiddiau (coeden 'ddyheadau' arall)


Maint y cerrig yn amlwg


Carreg goncrid - i ddynodi lle bu un wreiddiol


Cyd-destun amaethyddol y lle


Mae Bradford on Avon - tref bert iawn - yn ymyl, ac yno mae addoldy o fath prin iawn, sef eglwys Sacsonaidd Sant Laurence


Yr allor (a darn o goeden hynafol yn y mur)


Desg yn yr haul - oedd, roedd fflachiadau o heulwen erbyn hyn.


Grisiau Jazz Carlin (wn i ddim sut y byddwn i'n gweld y fath 'fraint' o gael cwpwl o risiau cwbl ddi-nod wedi'u henwi ar fy ol!)


Jazz arall


Ac ar garlam i gloi - Ceffyl Hackpen. Dyma hanes ceffylau gwynion y sir


Ac i gloi - nid machlud am unwaith, ond yr haul gwan yn chwarae mig ar gae coch, o fewn golwg i'r ceffyl gwyn.
Eisteddfod 2017
16th August 2017 - 0 comments

[Llun ffôn yn edrych trwy dwll y milenia]

Cafwyd wythnos ddiddorol yn Sir Fôn, bro fy mebyd fel petai,yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol.

Bodedern oedd lleoliad y Maes, ac fe fuon ni'n aros yn agos, mewn bwthyn ardderchog ger Llanfachraeth. Roedd y sustem unffordd o ran mynediad at yr Eisteddfod ar ddechrau'r ŵyl yn golygu bod rhaid teithio braidd yn bell i gyrraedd, ond felly mae, ac roedd y mannau parcio yn reit agos at y maes ar ôl cyrraedd, chwarae teg.

Wedi dilyw dydd Sul, daeth newid byd, a bu raid gyrru yr holl ffordd i faes awyr Mona er mwyn parcio, ac wedyn dal bws yr holl ffordd yn ôl. Fe gymerodd hi tua dwy awr a hanner i gyrraedd y maes ar y dydd Llun, a rhyw awr a thri chwarter i ddychwelyd! Fe wellodd pethau o ddydd Mawrth ymlaen, ond roedd treulio lleiafswm o ddwy awr a hanner y dydd yn teithio i faes oedd o fewn 4 milltir yn llethol. Er bod gen i docyn wythnos, doedd dim chwant arna i i wynebu her y bysiau bob dydd.


[Ciwio am fws, gyda diolch bod y glaw wedi cilio]

Er bod effaith y glaw wedi rhoi'r farwol i'r trefniadau parcio gwreiddiol, doedd y maes ei hun ddim mor wael. Fe welais lawer gwaeth. Ond roedd braidd yn 'hopeless' os nad peryg i rai oedd yn cael thrafferth cerdded, ac fe fyddwn yn tybio bron yn amhosib ar gyfer rhywun mewn cadair olwyn.


[Dydd Llun llidiog]



Ond hei, mae'r awyr yn las!

Oherwydd y tywydd anwadal, fe dreuliais mwy o amser nag arfer mewn pebyll yn gwrando ar ddarlithoedd, ac fe fues i hyd yn oed yn eistedd am oriau yn y pafiliwn, yn gwrando ar y cystadlu!

Roedd y camera 'gorau' gen i yn y tŷ, ond fe benderfynais nad oeddwn am ei gario yn feunyddiol o gwmpas y Maes (tydi'r camera, fel finnau, ddim yn hoffi tamprwydd!). Ar ôl rhyw ychydig, fe ddaeth hi'n her i geisio cael lluniau gyda chamera bach 'poced' a ffôn yn unig. Oherwydd natur y camera bach, roedd hi'n gwbl amhosib cael y math o luniau roeddwn yn arfer eu tynnu, felly roeddwn i'n diawlio am sbel, nes i mi arfer efo'r cyfyngderau a chanolbwyntio ar weithio gyda rinweddau'r ddyfais, yn hytrach na brwydro yn eu herbyn.

Mae detholiad o'r lluniau i'w gweld yma.


[Nid Cilt, diolch i'r drefn]

Uchafbwynt yr wythnos oedd yr unig ddiwrnod wirioneddol braf, sef y dydd Iau, pryd yr aeth fy mrawd a finnau am dro hyfryd iawn ar hyd llwybr yr arfordir rhwng Llanbadrig a Phorth Wen. Os ydych chi'n cael eich hysbrydoli i ddilyn yr un llwybr, sylwer bod darnau serth iawn ar ei hyd!


[Gwaith clai porslen, Lanlleiana]

Wythnos ddigon dymunol felly ar y cyfan, er y rhwystredigaethau a'r holl oriau mewn ceir a bysiau.

Rwy'n edrych ymlaen nawr at y flwyddyn nesaf, pan fydd yr Eisteddfod yng Nghaerdydd - profiad pur wahanol fe dybiaf.
Neges gan yr Eisteddfod - Dydd Llun- Eisteddfod notice
06th August 2017 - 0 comments
SYSTEM BYSIAU GWENNOL I GLUDO TEITHWYR I’R EISTEDDFOD DDYDD LLUN
Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn defnyddio system bws gwennol i gludo teithwyr i’r Maes ym Modedern ddydd Llun 7 Awst.
Bydd teithwyr o’r tir mawr yn cael eu cyfeirio i ddod oddi ar yr A55 ar gyffordd 6, i faes parcio Sioe Môn ym Mona am gyfnod ddydd Llun. Mae heddiw wedi bod yn ddiwrnod gwlyb a bwriad defnyddio’r maes parcio ym Mona fel gweithdrefn dros dro yw arbed y tir ym Modedern ar gyfer canol a diwedd yr wythnos.
Mae arwyddion eisoes mewn lle i arwain teithwyr i’r maes parcio dros dro, ac mae’r trefnwyr yn gofyn i bob teithiwr eu defnyddio er mwyn sicrhau bod traffic yn parhau i redeg yn llyfn ar yr Ynys.
Byddem yn ddiolchgar pe gallech rannu’r wybodaeth yma’n eang, ar yr awyr, ar-lein a thrwy eich gwasanaethau cyfryngau cymdeithasol.
-diwedd-


SHUTTLE BUSES TO BRING VISITORS TO EISTEDDFOD MAES ON MONDAY
The National Eisteddfod will use a shuttle bus system to bring visitors to the Maes in Bodedern on Monday 7 August.
Visitors from the mainland will be directed to leave the A55 at junction 6 for the Anglesey Show car park in Mona for a period on Monday. Today has been wet on the Maes, and organisers will use the car park in Mona as a temporary measure to conserve the ground in Bodedern for mid week and the end of the festival.
Signs have already been put in place on the roads to lead visitors to the temporary car park, and organisers are asking everyone to follow the signs to ensure that traffic continues to run smoothly across the island.
We would be grateful if you could share this information widely, on air, online and through your social media channels.
-ends-
Ciao
31st July 2017 - 0 comments
Ciao!

Following on from last month's lecture and frantic gardening came our annual (or even bi-annual) summer holiday. Having a voucher to spend with Flybe (don't ask - or I'll start ranting), we chose to use it on direct flights Cardiff >< Verona. A hop, skip and jump from there and we arrived at our destination, Torri del Benaco on the eastern side of Lake Garda.

I didn't carry a 'proper' camera with me (i.e. one that weighs in at 2 bricks), as this was supposed to be a totally chilled-out experience. I had only my battered little Sony RX100 and phone to hand. Enjoy the views.

Wele ni'n cychwyn am wythnos o wyliau yn haul bendigedig yr Eidal, un o fy hoff wledydd, a lle y byddwn yn hoffi byw am sbel, pe bai amgylchiadau'n wahanol.

Yn dilyn debacle yr ehediadau i Lyon y llynedd i weld y pêl-droed (stori ddiflas, 'drist iawn, very sad', ys dywed Arthur), roedd gen i daleb i'w defnyddio yn erbyn ehediad Flybe. Wrth lwc, mae ganddynt awyrennau sy'n hedfan yn syth o Gaerdydd i Ferona, felly dyma drefnu wythnos o ymlacio llwyr ar lan Llyn Garda, mewn gwesty yn ymyl harbwr bach del, mewn ystafell gyda balconi bach ar gyfer fy Giulietta.

Roeddwn wedi disgwyl i'r tymheredd fod yn y 20au uchel, ond roedd hi'n gyson rhwng 33 (swrth) a 35 (yn barhaol wedi hario).
Felly, heblaw bod crwydro ddim yn rhan o'n cynlluniau yn y lle cyntaf, roedd y gwres ychwanegol yn sicrhau ein bod yn tueddu i aros yn gyfforddus y tu fewn i libart tref fach gysurus, hamddenol Torri del Benaco.

Fe fuon ni ar drip ar fferi, ac ar fysiau yma ac acw, ond roedd digon i'n cadw'n ddiddan o gwmpas y dref am y rhan fwyaf o'r amser.

Roedd y 'camera iawn' wedi'i wahardd, gan mai ymlacio a dadebru oedd y bwriad, nid cario 3kg ychwanegol i bobman ar fy nghefn. Felly, dim ond camera bach (clwyfedig) Sony RX100 a'r ffôn symudol oedd gen i.

Wele'r mis mewn lluniau...

Yr ardd yn dechrau edrych yn dda cyn cychwyn.
Bye, gardening, for a whole week


Ciao Torri del Benaco


Yr harbwr o ben y castell
View from the castle tower (with our hotel resplendent)


Cerflun
An Alpini? reading to a child from the work of Eugenio Corti


Torri o/from Albisano


Cerflun i ddiolch i'r rhai sy'n rhoi gwaed
A sculpture thanking those who donate blood


Mellt - Thunderstorm


A oes rhaid gadael?
Do we have to leave?


Engrafiad hynafol (Amgueddfa Torri del Benaco)
Ancient graffiti (Torri Museum)
gweler hwn - click here for info


Canu. Eto.
We hadn't realised that there was a sing-song outside the hotel every evening!


Milwr / soldier (Amgueddfa - Torri - Museum)


Pysgota - roedd pysgotwyr yn gosod rhwydi bob nos, a llu o drigolion yn pysgota o'r lan
Laying fishing nets - each evening fishermen and women would lay nets or fish from the bank


Canolfan gelf - Art centre


Limone

Roedd tyfu lemonau yn arfer bod yn brif ddiwydiant yn ardal Limone, nes i'r Eidal uno, a lemonau rhatach gyrraedd yn ddi-dreth o Sicilia.
Limone once flourished due to its lemon groves, however after unification, those cheap pesky Sicilian lemons arrived, toll-free, and there ended Limone's lemon industry.






Rhan o ddarlun yn eglwys 'Rocco' (Chiesa San Rocco)
Detail from a painting in the 'Rocco' church (Chiesa San Rocco)




Eglwys - Rocco - church


Glanfa'r fferi
Ferry landing


Malcesine





Castell Scaliger




Castelletto


Albisano > Torri (llwybr y pererinion / pilgrim's path)

Albisano





Grrrr. Tai crand - posh houses
]

Dal pryfetach ar lwybr y pererinion i lawr o Albisano i Torri
Catching bugs, (Olive Fruit Fly) in the olive groves on the pilgrim route between Albisano and Torri




Y llwybr heibio'r coed olewydd
The path through the olive groves


Waliau hardd
The beauty of walls




Ysgubau eidalaidd
Italian themed brushes


Cysegr - Shrine


Fe fethais ddarganod unrhyw wybodaeth am hwn. Rhyfedd braidd. Santes Feronica efallai?
I didn't come across any info on this rather disconcerting representation. St Veronica perhaps?



Croeso adref i Gymru, meddai'r barcud
Welcome home to Wales, says the red kite


Gan nad oedd hi'n bwrw glaw, aethon ni draw i fynychu rhan o Ŵyl Hen Linell Bell yn y bandstand yn Aberystwyth
It wasn't raining one day, so we visited a festival at the bandstand

Kizzy Crawford


Calan




Cadw golwg wrth ffidlan efo ffonau
Heads down - smartphones


Parti priodas ruddem teuluol yn y gogledd!
Ruby wedding anniversary up north


Ac i orffen - machlud ar yr hen linell bell nad yw'n bod
And the usual close - the sun sinks beneath the horizon in Cardigan Bay
Llun Aberystwyth
23rd July 2017 - 0 comments


Aeth yr enwau i mewn i het ar gyfer pwy fyddai'n derbyn y llun o Aberystwyth wedi'i fframio. Yn rhyfedd iawn roeddwn i'n adnabod bron pawb oedd wedi ymateb!

The names went into the hat, and one came out! Who's going to get the framed print of Aberystwyth?

Congratulations / Llongyfarchiadau Nia Mai Daniel!

Diolch i bawb ymatebodd - thanks to all who responded.
Mehefin 17
06th July 2017 - 0 comments


[Scroll down for English]

Fues i erioed mor falch o weld diwedd Mehefin!

Ers wn i ddim faint o fisoedd, roeddwn wedi bod yn paratoi yn araf deg ar gyfer darlith i Ŵyl Gregynog am fywyd Alvin Langdon Coburn, Americanwr a oedd yn ffotograffydd blaengar iawn yn ei ddydd, a ymsefydlodd yng Nghymru. Roedd ei fywyd yn reit ryfeddol, a dweud y gwir, ac mae llawer eisoes wedi'i ysgrifennu amdano. Felly roedd cryn dipyn o waith darllen a distyllu i'w wneud! Yn ddigon naturiol, mae pwyslais popeth bron ar ei fywyd ffotograffig, ond roeddwn i am geisio deall mwy am ei fywyd cyfan a'r hyn a wnaeth tra oedd yn byw yng Nghymru, ei 'wlad fabwysiedig', yr oedd 'yn ei charu'n fawr'.

Yn y Llyfrgell Genedlaethol fe geir nifer o flychau ac albymau sy'n drysordy o wybodaeth ychwanegol, nad oes fawr neb wedi'i hastudio, ac felly fe fues i am hydoedd yn palu trwy bopeth, printiedig, ar y we, ac yn y blychau yn y Gen.

Yn ystod Mehefin roedd angen canolbwyntio'n llwyr bron ar y pwnc, a llunio sgwrs hwyliog. Er fy mod i mewn theori wedi hen arfer paratoi cyflwyniadau, mae'n rhaid cyfaddef bod cywasgu bywyd y dyn rhyfeddol hwn i sgwrs awr wedi bod yn waith anodd dros ben.

Felly, does gen i fawr ddim i sôn amdano y mis hwn, gan fy mod wedi mynd drwy'r 'artaith o ysgrifennu' unwaith yn rhagor. A choeliwch fi, mae llenwi gofod gwag gyda geiriau yn gallu teimlo fel artaith. Mae llawer iawn o sôn yn ddiweddar, er enghraifft yn sgil adroddiad ar lenyddiaeth a chyhoeddi yng Nghymru, am rôl awduron, a grantiau ac yn y blaen. Ond mae llawer iawn o'r gwyntyllu barn sy'n digwydd o ogwydd 'llenyddol' ac o safbwynt awduron 'llenyddiaeth' neu 'ffuglen', heb fawr ddim sôn am greaduriaid eilradd sy'n cynhyrchu gwaith ffeithiol neu led-ffeithiol. A does bron ddim cydnabyddiaeth na sôn am rai sy'n cynhyrchu gwaith creiddiol ddarluniadol, gan gynnwys llyfrau â seilwaith ffotograffig.

Ta waeth, nid gofod i ddechrau dadlau yw'r blog hwn, ond lle bach digynnwrf i ddatgelu mymryn ar daith weledol hen foi wrth iddo ddilyn ei drwyn drwy'r byd, gan ryfeddu at y pethau bychain o'i gwmpas.

Dyma isod felly ryw gip ar fy mywyd y tu allan i'r fyfyrgell am fis Mehefin.
___

June was spent sweating not in the garden, but indoors, preparing a talk on Alvin Langdon Coburn for the Gregynog Festival. There's quite a lot written about this American photographic pioneer, who made his home in Wales - his 'adopted country' and a place 'he dearly loved'. So, over the last few months I spent a lot of time poring over texts, websites and journals, as well as original manuscripts and papers held at the National Library of Wales.

Then came the painful process of writing! Filling a blank page is a bit like having a tooth removed, in that a nagging, never-ending and deepening pain is suddenly relieved the second the tooth is gone, or in this case an actual physical real tooth, plus the completion of the script.

This blog is supposed to be about my photographic journey, an old codger wandering through his life, still noticing and finding pleasure in the little things which surround us.

So here is June, a month of very little physical wandering at all, though my reading took me from Boston to Rhos-on-sea, with many adventures in between.
...

Taith ar y trên bach i ben yr Wyddfa fawr, ac yna ymlwybro i lawr ar hyd llwybr Llanberis. Roedd hi'n niwl pan gyrhaeddon ni, ond yn sydyn fe gliriodd y cymylau a datgelu'r golygfeydd godidocaf.

My wife had never reached the summit of Snowdon, and I'd only ever been at the top in thick fog, so we took advantage of the fine weather, taking the train up, and the pathway back down.

Yr Wyddfa . Snowdon










Roeddwn i wedi addo bod yn feirniad yn Sioe Aberystwyth / Ceredigion.

Judgement day at Aberystwyth and Ceredigion Show!

Sioe Aberystwyth
Tractorau McCullock / Field Marshall





Siop Inc yn mentro i'r maes
Siop Inc branching out with a well-themed little mobile shop.


Wyau! Eggs!


Angen golygydd ar y Borth
Borth in need of a proof editor (Gadwech = Gadewch)


Noson anhygoel o glir a braf, gan edrych i gyfeiriad y gogledd ar draws Bae Ceredigion
Amazing sunset on an equally amazing clear evening - looking northwards across Cardigan Bay

The sun at an acute angle removes much detail, and the landscape becomes a pure graphic representation of itself, and with man-made landmarks obscured, becomes symbolic of purity lost







Nid fy nghwch i, gwaetha'r modd
Not my kayak, unfortunately


Diwedd hirddydd haf, a goleuni rhyfedd dros dwyni Ynys-las
Summer solstice, and a dramatic sky hangs for a moment over the dunes at Ynys-las National Nature Reserve
Pelydrau




Eglwys Llandrillo-yn-rhos. Man gorwedd Coburn a'i wraig, Edith
Llandrillo-yn-rhos church, and Coburn's resting place



Cofeb i deulu lleol (Jonesiaid Plas Dinarth)- collodd rhai eu bywydau pan suddwyd y Lusitania yn 1915
Memorial to a local family (Jones's of Dinarth Hall), some of whom drowned when the Lusitania was sunk in 1915




Bedd Alvin Langdon Coburn a'i wraig, Edith
The grave of Alvin Langdon Coburn and his wife, Edith


Canlyniad canolbwyntio ar ddarllen a sgwennu yn hytrach na garddio
Days spent writing = eco-friendly lawn!


Coleg Harlech - cyn-gartref George Davison (Wern Fawr), ffrind i Coburn, a lleoliad y ddarlith
Coleg Harlech, formerly home of Coburn's friend George Davison (Wern Fawr) - location of my talk



Septura yn cloi Gŵyl Gregynog gyda chyngerdd yng Nghastell Harlech
Septura close the Gregynog Festival with a recital in Harlech Castle.


Ac i gloi yn y dull arferol ... my usual ending ...
Nodi 4M
04th July 2017 - 0 comments
[Scroll down for English translation]
I nodi derbyn dros 4 miliwn o gliciau ar fy lluniau, rwyf am roi y ffotograff hwn o Aberystwyth i berson ffodus. Mae'r darlun wedi'i argraffu ar bapur arbennig, bambŵ, ac mae’n gorwedd mewn ffrâm wen (tua 21.5" x 17.5"), fel y gwelwch.

Os hoffech ‘roi eich enw yn yr het’ ar gyfer siawns o gael y llun, y cyfan sydd angen i chi wneud ydi sicrhau eich bod yn dilyn fy nghyfrif Twitter @traedmawr, clicio ar fy mhroffil, lle bydd trydariad perthnasol wedi’i gysylltu (pinned tweet). Hoffwch y trydariad, a’i ail-drydar (RT).
Os nad ydych ar Twitter, gadewch fanylion cyswllt yn y blwch ‘sylwadau’ ar waelod hwn, ac fe wna i ychwanegu’r enw i gynnwys yr het. (Ni fydd eich manylion yn ymddangos ar y wefan).
Fe fyddaf yn gwagio’r “het” rywbryd ar 23 Gorffennaf.
Y person lwcus fydd yn gyfrifol am drefnu casglu’r llun, er rwyf yn hapus i’w bicio draw o fewn 20 milltir i Aberystwyth.



To note over 4 million hits to my pictures, I’m giving away this framed print of one of my favourite photographs of Aberystwyth. It’s printed on bamboo paper, and the frame measures around 21.5” x 17.5”.

To have a chance of owning the print, just make sure you’re following me on Twitter (@traedmawr), click on my profile, and ‘like’ and Reetweet the relevant tweet which is pinned there. I’ll draw a random name from the ‘hat’ on 23 July. If you're not on Twitter but want to add your name to the contents of the 'hat', just leave your contact details in the 'comments' box at the end of this post. Your details won't appear on the website.

The lucky person will be responsible for arranging to pick up the picture, however, I’m happy to deliver within 20 miles of Aberystwyth.
Bedwen Lyfrau
31st May 2017 - 0 comments
Pethau annisgwyl a welwch o gwmpas ffatrioedd gwlân.


Dyma fi ar ddiwedd mis y Fedwen Fai, neu yn fwy perthnasol i mi, y Fedwen Lyfrau, yn sgwennu gyferbyn â'r olygfa isod a welir drwy ffenest y swyddfa.



Trefnir y Fedwen Lyfrau flynyddol gan Gwlwm Cyhoeddwyr Cymru, sef grŵp o gyhoeddwyr sy'n cynhyrchu llyfrau Cymraeg. Mae'n gyfle iddyn nhw i gyd gyfarfod ac arwain gweithgareddau difyr sy'n hyrwyddo darllen eu cynnyrch.

Fe fues i yno nid yn unig o ran diddordeb, ond hefyd oherwydd fy mod i'n tynnu lluniau'r digwyddiadau ac yn cymryd rhan mewn 'panel' trafod.

Ateb cwestiynau am 'Melinau Gwlân / Woollen Mills of Wales' oeddwn i, gyda Dana Edwards yn cadeirio, a Tom Jones (na nid y Tom Jones hwnnw!) a Gareth Owen yno i sôn am eu cyfrolau hwy.

Hwn, fe dybiaf, oedd y tro olaf y byddai gofyn i mi drafod neu hyrwyddo'r gyfrol, a chyda newidiadau yn y wasg eisoes wedi'i gweithredu, roedd rhyw deimlad o 'ddiwedd cyfnod' fel cwmwl o'm cwmpas rhywffordd.

Dyma'r cyfle priodol felly i mi ddiolch i bawb oedd ynghlwm â'r llyfr:- staff y melinau, staff Gwasg Gomer (cynt a phresennol), Branwen yr awdures, ac yn arbennig iawn rwyf am ddiolch i fy nghymar Marian, a oedd yn gwmni ac yn gymorth mawr, yn bâr ychwanegol o ddwylo, coesau a llygaid mewn sawl melin dywyll.


Marian - ar ein 'recce' i Lanwrtyd.

Diolch hefyd i wasg y Lolfa am eu cefnogaeth hwy yn ystod y flwyddyn, ac am gyhoeddi Tywydd Mawr - sef peth o stori eithafion tywydd Cymru, wedi'i hadrodd drwy gyfrwng lluniau hanesyddol - cyfrol rwy'n falch iawn ohoni!

Rwy'n cael hoe fach o weithio ar lyfrau nawr, ond gobeithio y daw cyfle i ail-afael mewn camera ac ysgrifbin eto cyn hir.



Diolch am ddarllen

Iestyn
4 Miliwn
25th May 2017 - 0 comments

Y perthi ger fy nghartref yng Ngheredigion.
The lane near my home in Ceredigion

Yn rhyfeddol, mae'r lluniau ar y ddwy brif wefan sydd gen i wedi'u gweld dros 4 miliwn o weithiau erbyn hyn.

Diolch felly i bawb sydd wedi mynd i'r draffeth i ymweld â'r safle hon a'r llif flickr. Gobeithio eich bod wedi mwynhau!

Rwyf o bryd i'w gilydd yn ystyried rhoi'r gorau i ychwanegu deunydd atynt, ond mae'r ymateb hyfryd rwy'n ei dderbyn o dro i dro yn help i mi gadw fy nhrwyn ar y maen!

Os bydd amser yn caniatau, fe drefnaf ffordd o nodi'r garreg filltir - rhywbeth gyda'r llun poblogaidd hwn, fwy na thebyg.



Ond o nawr tan ddiwedd Gorffennaf, fe fydd fy sylw yn bennaf ar waith ymchwil ac ysgrifennu, yn hytrach na thynnu lluniau newydd.

____

Thanks to all who have visited this site and my flickr photostream, for, amazingly, my pictures have now received over 4 million individual views.

I often tire of updating the sites, but the positive responses I receive encourage me to keep my shoulder to the digital wheel.

If time allows, I'll arrange a little celebration, possibly/probably around the rather popular image of the Old College pictured above.

But from now to the end of July, I'll be concentrating on research and writing, rather than making pictures.

Mai . May

Yolanda Castaño, Bardd o Galisia, yn cymryd rhan yng Ngŵyl Farddoniaeth Ryngwladol Cymru
Yolanda Castaño a Galician poet, taking part in the Wales International Poetry Festival


Machlud dros Fynydd Gorddu, yn edrych draw dros Fae Ceredigion
Sunset over Mynydd Gorddu, with Cardigan Bay in the distance


Corhedydd y Graig (diolch Richard Huws) ar y traeth wrth iddi nosi
A wary Rock Pippit (thanks Richard Huws) hops between the pebbles at dusk


Garmon Gruffudd o Wasg y Lolfa yn cyflwyno gwobr Cyfraniad Arbennig yn y Fedwen Lyfrau i'r golygydd creadigol Alun Jones.
Garmon Gruffudd of y Lolfa presents the creative editor, Alun Jones, with a Special Award at the 2017 Bedwen Lyfrau




Siop Inc - yn 13 oed!
Siop Inc of Aberystwyth enters its teenage years!


Adlewyrchiadau ar Afon Rheidol
Reflections on the Rheidol


Ac i gloi yn y dull arferol - machlud Clarach
And to close in the usual manner - a nice Clarach sunset!
O'r Corau i Coburn
30th April 2017 - 0 comments
Bore dydd Sadwrn olaf mis Ebrill fe aeth Marian a finnau draw i Hwyl Llên Llandeilo. Roeddwn i ac awdur 'Melinau Gwlân', Branwen Davies, yn cael ein holi gan Elinor Wyn Reynolds am y gyfrol. Diolch i bawb ddaeth i wrando arnom. Dim ond ar y ffordd yn ôl adref gofiais am yr holl bethau roeddwn wedi bwriadu'i crybwyll! Roedd yn braf gweld hen ffrindiau a chyfeillion newydd yno'n cefnogi.

Gan fod y sgwrs am hanner dydd, roedden wedi clemio erbyn y diwedd, ac ar ôl crwydro o un bwyty brysur i'r llall yn y dre fach orlawn, cawsom seddau yn Cafe Braz (os ydw i'n cofio'n iawn) ac yno fe gefais y pei cyw/cennin/bacwn gorau a flasais erioed. Seren aur i'r caffi bach hwn. Gwell pastai hyd yn oed na hwnnw a brofais yn y Talbot, yn dilyn diwrnod hir o dynnu lluniau ar Gors Caron ers stalwm!

Dyma ddiweddglo i fis eithriadol o brysur, oedd yn cynnwys tynnu lluniau cefn llwyfan yn ystod ffeinal Côr Cymru, a chofnodi 'datganiad' Uchel Siryf newydd Dyfed.

Ond beth am Coburn? Wel, fe fues i yn adral Bae Colwyn y diwrnod cyn Llandeilo, i ymchwilio ar gyfer sgwrs arall, pur wahanol i'r arfer, y byddaf (os byw ac iach) yn ei thraddodi i Ŵyl Gregynog, yn Harlech ar yr 2 Gorffennaf. Testun y sgwrs fydd 'Alvin Langdon Coburn', sef ffotograffydd o America, oedd yn ddylanwadol iawn yn ei ddydd. Fe ymsefydlodd yng Nghymru, gan fyw yn Harlech a Rhos-on-sea.

Wrth ysgrifennu hwn, rwy'n gwylio dangosiad cyntaf ffilm 'Y Llyfrgelll' ar y sgrin fach, a wele ymddangosodd hwn, at wefan y BBC,

___

My April was showered by work and personal "must do's", including taking 'back stage' views of a choral competition for the BBC, and covering the Installation day of the new High Sheriff of Dyfed.

The month ended with a trip to the Llandeilo LitFest, where Branwen Davies, the author of 'Woollen Mills of Wales' and I were questioned by Elinor Wyn Reynolds about the volume. Thanks to all those who attended, for turning up to lend us their ears. The previous day had been spent partly in the Rhos-on-sea area, carrying out a little research for a forthcoming talk on Alvin Langdon Coburn to the Gregynog Festival. For those not acquainted, he was an influential American photographer who made his home in Wales. All being well, the talk will take place on 2 July at Harlech.

I'm writing this as the film 'Library Suicides' is being broadcast on the small screen for the first time, and the BBC kindly rejuvinated a previous post - one of my favourite projects.

The rest of the month was something like this ...

Onglau difyr. Interesting angles. Tanybwlch


Tlws - Côr Cymru - Trophy


Tiwlip. Tulip.


Beiciwr ar draeth. Biker on a beach.


Y Borth


Llyn Tegid, y Bala


Rhos-on-sea


Cwm Mabws
Llandeilo Looming
20th April 2017 - 0 comments
Fe fydd Branwen Davies a finnau yn cael ein holi gan Elinor Wyn Reynolds am y gyfrol 'Melinau Gwlân', yn ystod Hwyl Llên Llandeilo am hanner dydd ar y 29 Ebrill. Dewch yn llu!

Yn dilyn yn hwyrach am 3, fe fydd fy hen 'fos' o'n dyddiau yn y Llyfrgell Genedlaethol, Dr Huw Owen yn trafod Capeli Cymru.

Branwen Davies and I will be interviewed by Elinor Wyn Reynolds regarding the book 'Woollen Mills of Wales' in the Llandeilo LitFest, midday on 29 April. Our discussion will be mainly in Welsh. Come on over to Horeb Chapel!

We'll be followed later on (3 pm) in the afternoon by my old boss at the National Library, Dr Huw Owen, with a talk on Welsh Chapels (in Welsh with English translation).

Dyma ddigwyddiadau Cymraeg yr ŵyl ...
Here are the Welsh language events ...

Cantre'r Gwaelod (eto)
15th April 2017 - 0 comments
Sylwais heno bod tipyn o'r hen goedwig i'w gweld yn y Borth ar lanw isel. Doedd yr olygfa ddim hanner cystal ag ydoedd yn dilyn y stormydd mawr cwpwl o flynyddoedd yn ôl, ond roedd dipyn mwy o fonion i'w gweld na'r tro diwethaf y bum i yno.

Mae'r ardal gorau mymryn i'r gogledd o'r Borth, i gyfeiriad Ynys-las.

Parciwch y pen pellaf i'r pentref, tuag at gyfeiriad y clwb golff, a cherdded ar hyd y traeth rhyw ganllath neu ddwy neu dair i gyfeiriad Ynys-las, ar hyd y tywod, er mwyn cyrraedd y bonion coed.

Mae'r llanw yn reit isel tuag at amser y machlud y dyddiau hyn, felly mae'n amser da i fwynhau'r coed, dychmygu'r hanes ac adrodd y chwedlau!

Dyma dabl llanw y BBC
Côr Cymru 2017
10th April 2017 - 0 comments


Dydd Sul fe gefais y fraint o dynnu lluniau ar gyfer BBC Cymru Fyw o ffeinal Côr Cymru.

Diolch yn fawr iddyn nhw am ofyn, ac yn arbennig i griw cynhyrchu Rondo am fod mor glên a chefnogol ar hyd y diwrnod hir.

Fe allwch weld detholiad Cymru Fyw o'r lluniau yn y fan hyn.

Sunday was spent taking pictures of the Côr Cymru final for BBC Cymru Fyw. Many thanks to them for asking, and a million thanks to the Rondo production team for all their support during the long day.

You can see the pictures chosen by the BBC here.
Machludo - sunset
08th April 2017 - 0 comments
Er ei bod hi'n ddiwrnod bendigedig, roeddwn yn sownd yn y tŷ yn gweithio heddiw - nes i'r trydan ddiffodd yn ddisymwth! Yna awr (neu ddwy) ar bigau'r drain wrth i Lightroom geisio 'adfer' fy nghatalog briw.

Wedi'r adferiad, fe suddais i gynhesrwydd y car ac anelu am Draeth Tanybwlch (i'r de o harbwr Aberystwyth) i weld beth a welwn wrth i'r haul fachlud dros Fae Ceredigion. Dim ond y camera bach poced oedd gen i wrth law, ond roedd rhaid ceisio tynnu llun.

Roedd hi'n gynnes iawn yno, a phawb - plant bach, cerddwyr, pysgotwyr, a barbiciwyddion, mewn hwyliau da.

A hithau'n nosi, roedd cychod bach a mawr yn anelu am yr harbwr i noswylio.

Dyna le braf yw Aberystwyth ar noson fwyn.

Dyma fymryn o'i naws i chi fwynhau.

Sunset at Tanybwlch, to the south of Aberystwyth harbour, on a balmy evening.



Onglau - angles

Gwerthwyr gorau - Bestsellers
04th April 2017 - 0 comments


Mae'r gyfrol Melinau Gwlân yn y 10 uchaf o ran gwerthiant llyfrau Cymraeg i oedolion am yr ail fis. Mae hyn yn destun boddhad nid yn unig oherwydd ei fod yn awgrymu bod y lluniau a dynnais yn cyrraedd y nod, ond hefyd oherwydd bod pob copi a werthwyd yn tynnu sylw at waith unigryw y busnesau bach sy'n ymlafnio yn y diwydiant diddorol, hanesyddol hwn. Rwyf hefyd yn falch oherwydd mae'r gwerthiant yn deyrnged i'r awdur ac i'r tîm cynhyrchu creadigol arbennig yng Ngwasg Gomer. Pob hwyl iddynt oll, ac i'r wasg, yn y dyfodol.

Yng nhganol y munudau synfyfyriol hyn, fe edrychais yn ôl ar restrau gwerthwyr gorau'r Cyngor Llyfrau, a sylweddoli bod cyfrolau yr wyf wedi ymwneud â hwy wedi'u cynnwys am unarddeg o'r deuddeg mis diwethaf. Felly diolch i bawb o'r gweisg sydd wedi cynnig cyfleuon creadigol neu ymchwil i mi dros y blynyddoedd diwethaf. A diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi prynu'r llyfrau hyn - chi sy'n eu gosod yn y 'top ten' wedi'r cyfan.

'Woollen Mills of Wales' has made it into the Welsh Books Council 'top ten' sales list for the second month - no mean feat, especially for a factual book. It was a privilege to work with the author and the hugely creative team at Gwasg Gomer. Good luck to them and the press in the future.

Amazingly, books to which I've contributed have appeared in the 'top ten' in eleven of the last twelve months. During one month there were three! Who'd have thought it - not me for sure. So thank you all who purchase (and hopefully read) books from Wales - without you there would be no top ten, and our vigorous, proud little culture would be so much poorer.
Hwyl Llên Llandeilo Litfest
01st April 2017 - 0 comments
Fe fydd awdur Melinau Gwlân a finnau yn trafod y llyfr yng Ngŵyl 'Hwyl Llên Llandeilo' am hanner dydd ar 29 Ebrill (yng Nghapel Horeb).

Branwen Davies, the author of Woollen Mills of Wales and I will be discussing the book at the the Llandeilo Litfest on 29 April, at Horeb Chapel.

Melinau ar Heno
30th March 2017 - 0 comments
Roedd eitem am 'melinau Gwlân' ar rhaglen Heno 30/3/2017



Fe fydd ar gael ar safle Clic S4C am sbel fach - tua 13.30 munud i mewn. Cliciwch yma i wylio'r rhaglen.

An item on Woollen Mills of Wales on 'Heno'. Some 13.30 minutes in. Unfortunately they show random adverts before launching the actual programme.
Melinau - y lansiad
27th March 2017 - 0 comments
Diolch i bawb oedd yn ymwneud â lansiad y llyfr 'Melinau Gwlân' ddydd Sadwrn - Branwen a Rachael, staff y wasg a'u teuluoedd, yr Amgueddfa Wlân, y gwehyddion, a phawb ddaeth i wrando.

Mwynhau clonc a phaned ar y diwedd.

Tea, Welsh cakes and a good natter to end the proceedings.

Staff Gwasg Gomer. Mair, Sioned, Nia ac Elinor


Thanks to everyone involved in the launch of 'Woollen Mills of Wales' on Saturday - Branwen and Rachael, Gwasg Gomer staff and helpers, the staff of the National Wool Museum, the weavers and all the members of the public who attended.
Lansio llyfr - Book launch
12th March 2017 - 0 comments
Lansiad swyddogol 'Melinau Gwlân Cymru' 25 Mawrth, Amgueddfa Wlân Cymru.
Official launch 'Woollen Mills of Wales' 25 March, National Wool Museum.

Cysylltwch â Gwasg Gomer os hoffech fynychu.
Contact Gwasg Gomer if you'd like to attend.